Opportunities

Communications and Engagement Manager

(Part Time – 0.8 FTE)
Location:Hay Castle, Hay-on-Wye
Salary:£30,369 per annum pro rata (actual salary £24,295 per annum)
Hours:32 per week, to include weekend work (one weekend in three to be agreed)

Welcome

Hay Castle Trust is a young charity with big ambitions, and we’re looking for someone who wants to grow with us.

Hay Castle was built by a Medieval giantess and was most recently occupied by the self-declared King of Hay, who appointed his horse as Prime Minister. Rescued, restored, and renewed, Hay Castle now serves as a unique centre where centuries of Welsh heritage meet the creative spirit of Hay-on-Wye, and its surrounding rural communities. We’re steeped in history, but not stuck in it. We celebrate our years in ways that are sometimes playful, always surprising, thoroughly contemporary and often joyously offbeat.

We are not any old castle, and this is not any old job. As our Communications & Engagement Manager, you’ll have the chance to shape the role and make a real impact on how we connect with our audiences and build our community, both online and in person.

About the role

The overall purpose is to

  • enhance, protect, and widen Hay Castle’s reputation among key audience groups
  • help to attract more visitors
  • engage and grow the Castle’s community (including online)

The role will include

Strategy
  • work with the Director and relevant Trustees to develop the castle’s communications and audience development strategy
  • develop the Castle’s social media strategy
Digital
  • develop digital content to engage people in the Castle and its programme of events
  • manage the Castle’s social media platforms including:
    • planning and timetabling posts and content – ensuring consistent tone of voice and standards across all channels
    • monitoring and responding to reviews and comments on Google and Trip Advisor
    • working with colleagues to ensure effective promotion of activities across digital platforms
  • help to keep the Castle’s website up to date and engaging
  • collaborate with the Director to produce engaging and accessible quarterly newsletters
Media & communications
  • manage Hay Castle’s overall external communications so as to protect and enhance its reputation
  • develop a communications plan to raise awareness of the Castle and its programme of events
  • research, write and distribute press releases to targeted media – including listings for Castle events
  • organise publicity events for major exhibitions
  • collate and analyse media coverage and evaluate impact of marketing and communications activity
  • collaborate with the Director on scheduling communications with our membership
Other
  • review and refine the Trust’s CRM systems and processes to more effectively manage and segment audience/visitor information
  • collaborate with the Director on development efforts – including updating funders and telling supporter stories
  • manage delegated marketing budget
  • manage occasional communications volunteers and consultants

We are a small and friendly team, picking up roles to support each other from time to time.

What we are looking for

Essential
  • Excellent written and verbal communication
  • Experience managing social media platforms
  • Strong organisational skills
  • Ability to work independently and as part of a small team
Desirable
  • Experience with press/media relations
  • Basic design or video editing skills
  • Experience with CMS/CRM
  • Understanding of cultural/heritage audiences

Don’t worry if you don’t tick every box on the job description. What matters most is that you’re creative, smart, confident with digital platforms, and can write in a way that engages people. We’re recruiting as much for attitude as experience, so if you’re full of ideas, love telling stories, and want to be part of our creative and ambitious team, we’d love to hear from you.

How to apply

To apply for this role, please send a CV and a cover letter to helen.furnell@haycastletrust.org. If you would like to include any examples of previous written, web or social media work, we would be happy to see these.

The closing date for applications is 5pm on 10 October.

Hay Castle Trust believes in the employment and advancement of people solely on their ability to do the job required. When recruiting people, we will therefore disregard their gender, marital status, age, race, colour, nationality, ethnic origin, religion and sexual orientation. There will be no discrimination on the basis of disability. All appointments are subject to satisfactory employment references.

If you would like to discuss submitting your application in a different format, please contact us on telephone 01497 820079 or via email to tom.true@haycastletrust.org.

Data Protection Act

Information provided by you as part of your application will be used in the recruitment process. Any data about you will be held securely with access restricted to those involved in dealing with your application in the recruitment process.

Once this process is completed, the data relating to unsuccessful applicants will be stored for a maximum of 6 months and then destroyed. If you are the successful candidate, your application form will be retained and form the basis of your personnel record.

Information provided by you on the Equal Opportunities Monitoring Form will be used to monitor Hay Castle’s equal opportunities policy and practices. By submitting your completed application form you are giving your consent to your data being stored and processed fpr the purpose of the recruitment process, equal opportunities monitoring and your personnel record if you are the successful candidate.



Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu

(Rhan-amser – 0.8 CALl)
Lleoliad: Castell y Gelli, Y Gelli Gandryll
Cyflog: £30,369 y flwyddyn pro rata (cyflog gwirioneddol £24,295 y flwyddyn)
Oriau:32 yr wythnos, i gynnwys gwaith ar y penwythnos (un ym mhob tri i'w gytuno)

Croeso

Mae Ymddiriedolaeth Castell y Gelli yn elusen ifanc sydd ag uchelgais mawr, ac rydyn ni wrthi’n chwilio am rywun sydd eisiau tyfu gyda ni.

Cafodd Castell y Gelli ei godi gan gawres Ganoloesol ac yn fwy diweddar bu’n gartref i un fu’n galw ei hun yn Frenin y Gelli ac a benododd ei geffyl yn Brif Weinidog. Ar ôl cael ei achub, ei adfer a'i adnewyddu, mae Castell y Gelli erbyn hyn yn ganolfan unigryw lle mae canrifoedd o dreftadaeth Gymreig yn cwrdd ag ysbryd creadigol y Gelli Gandryll, a'r cymunedau gwledig cyfagos. Rydyn ni'n gyforiog o hanes, ond heb gael ein boddi ganddo. Rydyn ni'n dathlu’n blynyddoedd mewn ffyrdd sydd weithiau'n chwareus, bob amser yn peri syndod, yn hollol gyfoes ac yn aml yn llawen a lloerig.

Nid unrhyw hen gastell sydd yma, ac nid unrhyw hen swydd yw hon. Fel Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu i ni, cewch gyfle i siapio'r rôl a chael effaith wirioneddol ar sut rydym yn cysylltu â'n cynulleidfaoedd ac yn adeiladu’n cymuned, ar-lein ac yn bersonol.

Ynglyn â'r rôl

Diben cyffredinol y swydd yw

  • gwella, gwarchod ac ehangu enw da Castell y Gelli ymhlith grwpiau cynulleidfa allweddol
  • helpu i ddenu rhagor o ymwelwyr
  • ymgysylltu â chymuned y Castell a’i chynyddu (gan gynnwys ar-lein)

Bydd y rôl yn cynnwys

Strategaeth
  • gweithio gyda'r Cyfarwyddwr a'r Ymddiriedolwyr perthnasol i ddatblygu strategaeth y Castell ar gyfathrebu a datblygu cynulleidfaoedd
  • datblygu strategaeth y Castell ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol
Digidol
  • ddatblygu cynnwys digidol i ennyn diddordeb pobl yn y Castell a'i raglen ddigwyddiadau
  • rheoli llwyfannau’r castell yn y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys:
    • cynllunio ac amserlennu postiadau a chynnwys – gan sicrhau tôn llais a safonau cyson ar draws pob sianel
    • monitro ac ymateb i adolygiadau a sylwadau ar Google a Trip Advisor
    • gweithio gyda chydweithwyr i sicrhau bod gweithgareddau’n cael eu hybu’n effeithiol ar draws y llwyfannau digidol
  • helpu i gadw gwefan y Castell yn gyfredol ac yn ddiddorol
  • cydweithio â'r Cyfarwyddwr i lunio cylchlythyrau diddorol a hwylus bob chwarter
Cyfryngau a Chyfathrebu
  • rheoli cyfathrebu allanol cyffredinol Castell y Gelli er mwyn gwarchod a gwella’i enw da
  • datblygu cynllun cyfathrebu i godi ymwybyddiaeth o'r Castell a'i raglen ddigwyddiadau
  • ymchwilio, ysgrifennu a dosbarthu hysbysiadau i'r wasg i'r cyfryngau sy’n cael eu targedu – gan gynnwys rhestrau o ddigwyddiadau'r Castell
  • trefnu digwyddiadau cyhoeddusrwydd ar gyfer arddangosfeydd
  • coladu a dadansoddi’r sylw yn y cyfryngau a gwerthuso effaith gweithgareddau marchnata a chyfathrebu
  • cydweithio â'r Cyfarwyddwr ar amserlennu’r cysylltiadau â'n haelodau
Arall
  • adolygu a mireinio systemau a phrosesau CRM yr Ymddiriedolaeth er mwyn rheoli a segmentu gwybodaeth i gynulleidfaoedd/ymwelwyr yn fwy effeithiol
  • cydweithio â'r Cyfarwyddwr ar ymdrechion datblygu – gan gynnwys rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cyllidwyr ac adrodd straeon y cefnogwyr
  • rheoli cyllideb farchnata ddirprwyedig
  • rheoli gwirfoddolwyr ac ymgynghorwyr cyfathrebu achlysurol

Rydym yn dîm bach a chyfeillgar, yn codi rolau i gefnogi’n gilydd o bryd i'w gilydd.

What we are looking for

Hanfodol
  • Cyfathrebu rhagorol mewn ysgrifen ac ar lafar
  • Profiad o reoli llwyfannau yn y cyfryngau cymdeithasol
  • Sgiliau trefnu cryf
  • Y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm bach
Dymunol
  • Profiad gyda chysylltiadau â'r wasg/y cyfryngau
  • Sgiliau sylfaenol mewn dylunio neu olygu fideo
  • Profiad gyda CMS/CRM
  • Dealltwriaeth o gynulleidfaoedd diwylliant/treftadaeth

Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n ticio pob blwch ar y disgrifiad swydd. Y peth pwysicaf yw eich bod chi'n greadigol, yn glyfar, yn hyderus gyda llwyfannau digidol, ac yn gallu ysgrifennu mewn ffordd sy'n ennyn diddordeb pobl. Rydyn ni'n recriwtio ar sail ymagwedd gymaint â phrofiad, felly os ydych chi'n llawn syniadau, wrth eich bodd yn adrodd straeon, ac am fod yn rhan o'n tîm creadigol ac uchelgeisiol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y rôl yma, anfonwch CV a llythyr eglurhaol at helen.furnell@haycastletrust.org Os hoffech gynnwys unrhyw enghreifftiau o waith blaenorol mewn ysgrifen, ar y we neu yn y cyfryngau cymdeithasol, byddem yn hapus i’w gweld.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ar 10 Hydref.b>

Mae Ymddiriedolaeth Castell y Gelli yn credu mewn cyflogi a dyrchafu pobl ar sail eu gallu i gyflawni’r swydd angenrheidiol yn unig. Gan hynny, wrth recriwtio pobl byddwn yn anwybyddu eu rhywedd, eu statws priodasol, eu hoedran, eu hil, eu lliw, eu cenedligrwydd, eu tarddiad ethnig, eu crefydd a’u cyfeiriadedd rhywiol. Fydd yna ddim gwahaniaethu ar sail anabledd. Mae pob penodiad yn dibynnu ar eirda boddhaol ynglyn â chyflogaeth.

Os hoffech drafod cyflwyno'ch cais mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar y ffôn 01497 820079 neu drwy’r ebost i tom.true@haycastletrust.org.

Y Ddeddf Diogelu Data

Bydd gwybodaeth a ddarperir gennych fel rhan o'ch cais yn cael ei defnyddio yn y broses recriwtio. Bydd unrhyw ddata amdanoch yn cael ei gadw'n ddiogel gyda mynediad ato wedi'i gyfyngu i'r rhai sy'n ymwneud â delio â'ch cais yn y broses recriwtio.

Unwaith y bydd y broses wedi'i chwblhau, bydd y data ynglyn ag ymgeiswyr aflwyddiannus yn cael ei storio am 6 mis fan bellaf ac yna ei ddinistrio. Os chi yw'r ymgeisydd llwyddiannus, bydd eich ffurflen gais yn cael ei chadw ac yn ffurfio sail eich cofnod personél.

Bydd gwybodaeth a ddarperir gennych ar y Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal yn cael ei defnyddio i fonitro polisi ac arferion Castell y Gelli o ran cyfle cyfartal. Drwy gyflwyno’ch ffurflen gais ar ôl ei llenwi, rydych chi'n rhoi’ch cydsyniad i'ch data gael ei storio a'i brosesu ar gyfer y broses recriwtio, monitro cyfle cyfartal a'ch cofnod personél os chi fydd yr ymgeisydd llwyddiannus.